Enghraifft o: | United Nations treaty ![]() |
---|---|
Dyddiad | 25 Mehefin 1998 ![]() |
Iaith | Tsieceg ![]() |
Gwefan | https://unece.org/environmental-policy-1/public-participation ![]() |
Mae Confensiwn Aarhus yn gytundeb amgylcheddol amlochrog sy'n cynyddu'r cyfleoedd i ddinasyddion gael mynediad at wybodaeth amgylcheddol ac yn sicrhau gweithdrefn reoleiddio dryloyw a dibynadwy.[1][2]
Llofnodwyd Confensiwn UNECE ar Fynediad at Wybodaeth, Cyfranogiad y Cyhoedd mewn Gwneud Penderfyniadau a Mynediad at Gyfiawnder mewn Materion Amgylcheddol, a elwir fel arfer yn Gonfensiwn Aarhus, ar 25 Mehefin 1998 yn ninas Aarhus yn Nenmarc. Daeth i rym ar 30 Hydref 2001. Ym Mawrth 2014, roedd ganddo 47 o'i blaid—46 o wledydd a’r Undeb Ewropeaidd.[3] Mae pob un o'r gwladwriaethau sydd wedi cadarnhau'r Confensiwn o fewn Ewrop a Chanolbarth Asia. Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi dechrau cymhwyso egwyddorion tebyg i Aarhus yn ei ddeddfwriaeth, yn arbennig y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cyfarwyddeb 2000/60/EC). Mae Liechtenstein a Monaco wedi arwyddo'r confensiwn ond heb ei gadarnhau.
Mae Confensiwn Aarhus yn rhoi’r hawliau cyhoeddus (o ran mynediad at wybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd a mynediad at gyfiawnder) ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r llywodraeth ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd lleol, cenedlaethol a thrawsffiniol. Canolbwyntiir ar ryngweithio rhwng y cyhoedd ac awdurdodau cyhoeddus.